Cymraeg
Cyhoeddiad Adroddiad Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig
Rydym yn cydnabod efallai bod cyhoeddiad adroddiad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn codi cwestiynau i chi, yn enwedig os cawsoch drallwysiad gwaed, cynhyrchion gwaed, neu drawsblaniad organau rhwng 1970 a 1991, neu os oes gennych anhwylder gwaed etifeddol.
Mae gwybodaeth i gleifion a’r cyhoedd a allai fod wedi derbyn trallwysiad gwaed, cynhyrchion gwaed, neu drawsblaniad organau rhwng 1970 a 1991 ar gael o wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru yn www.welsh-blood.org.uk.
Os oes gennych bryder am waed heintiedig, mae gwybodaeth am brofion gwaed yng Nghymru ar gael yn www.icc.gig.cymru/YmholiadGwaedHeintiedig.
Mae gwybodaeth i gleifion ag anhwylderau gwaed etifeddol ar gael gan y tîm clinigol sy’n darparu eich gofal a’ch triniaeth ar gyfer eich anhwylder gwaed etifeddol.
Mae gwybodaeth am yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig ar gael o wefan yr Ymchwiliad yn www.infectedbloodinquiry.org.uk
English
We recognise that the publication of the report of the Infected Blood Inquiry may raise questions for you, particularly if you received a blood transfusion, blood products, or organ transplant between 1970 and 1991, or if you have an inherited blood disorder.
Information for patients and the public who may have received a blood transfusion, blood products, or organ transplant between 1970 and 1991 is available from the Welsh Blood Service website at www.welsh-blood.org.uk.
Information about blood testing in Wales if you have a concern about infected blood is available from www.phw.nhs.wales/InfectedBloodInquiry.
Information for patients with inherited blood disorders is available from the clinical team providing your care and treatment for your inherited blood disorder.
Information about the Infected Blood Inquiry is available from the Inquiry website at www.infectedbloodinquiry.org.uk.